Chwiliwch drwy ein catalog o adnoddau hyfforddi Cymraeg RHAD AC AM DDIM
Gweithio i adeiladu Cymru gynaliadwy
Crëwyd Ysgol y Gadwyn Gyflenwi yng Nghymru i roi cymorth i’r diwydiant adeiladu, a hynny trwy ddarparu adnoddau hyfforddi rhad am ddim i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a’ch gwybodaeth ym maes cynaliadwyedd.
Adnoddau DysguMae Cymru’n arwain yr ymdrech i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy, a hynny yn y sector adeiladu yn anad dim. Mae sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflwyno er mwyn gwella’r amgylchedd, creu swyddi a phrentisiaethau newydd, a sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar fuddsoddiad newydd, yn sbardun allweddol yng Nghymru.
Mae gan sector adeiladu Cymru sbardunau deddfwriaeth a pholisi sylweddol sy’n llywio ein blaenoriaethau cynaliadwyedd yn yr adeiladau a’r seilwaith yr ydym yn eu codi ac yn eu cynnal a’u cadw.
Mae’r Ysgol yma i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am gynaliadwyedd, a hynny trwy ein hyfforddiant DPP achrededig ar-lein, RHAD AM DDIM, neu mynnwch air â ni yn un o’n sesiynau yng Nghymru.
Offsite Manufacture
Offsite Manufacturing Process
E-learning module
Business Ethics Training
Welsh Govt – Questions, Conditions and Policies
Document / Presentation
Gwyliwch ein Partneriaid yn siarad am bwysigrwydd y Ddeddf Llesiant ar gyfer adeiladu a Chymru
Sut y dylwn fynd ati i feithrin y sgiliau i gofleidio cynaliadwyedd?
Bydd ein hasesiad cynaliadwyedd yn eich galluogi i ddeall yr hyn y mae angen i chi ei wybod ac yn darparu cynllun dysgu cyflym 10 pwynt.
Asesu 'nawrBeth sy’n wahanol am adeiladu cynaliadwy yng Nghymru?
Rydym wedi datblygu adnoddau penodol i’ch helpu i ddeall a mynd i’r afael â blaenoriaethau cynaliadwyedd y sector adeiladu yng Nghymru. Yma, rydym yn tynnu sylw at rai o’r prif wahaniaethau o ran polisi a deddfwriaeth yn sector adeiladu Cymru.

“Mae'r Ysgol yn caniatáu i ni gyfleu neges gyson i'r diwydiant o ran yr hyn y mae arnom ei angen ledled ein cadwyn gyflenwi i arddangos perfformiad cynaliadwy.”Simon Richards, Rheolwr Rhanbarthol Cynaliadwyedd a Safonau, Sir Robert McAlpine




